Ardderchog!!!
Campus!!!
Gwych!!!
Bendigedig!!!
Da iawn chi ferched an ddod yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Rhuthin 2006 yn adrodd y gerdd Y Trydydd Byd.
Y Trydydd Byd
Cawn eu reis at ein heisiau
Cawn yd, cawn eu mel a’u cnau
Cawn eu ffrwythau gorau i gyd,
Hufen eu daear hefyd;
Ni, lydan ein waledi –
Byd noeth, - sy’n ein bwydo ni
Gwelwn eu plant yn swnian,
Y bol gwag a’r ymbil gwan,
Isio byw ar fymryn sbar;
Gwelwn lygaid eu galar
A thrwy logau banciau byd,
Gwelwn holl aur eu golud.
Rhown geiniog prynu gwenith,
I’w gwlad, powlennaid o’n gwlith,
A llwch dyngarol ein llaeth
A gwen hael yn gynhaliaeth,
Ni, lawn o bob haelioni –
Byd noeth, - sy’n ein bwydo ni.
gan Myrddin ap Dafydd