Cilmeri
Fin nos fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiwn hyn.
Y nant a welaf fan hyn
A welodd Llywelyn,
Camodd ar y cerrig hyn.
Fin nos, fan hyn
O'r golwg nesâi'r gelyn.
Fe wnaed y cyfan fan hyn.
Rwyf fi'n awr fan hyn
Lle bu'i wallt ar welltyn,
A dafnau o'i waed fan hyn.
Fan hyn yw ein cof ni,
Fan hyn sy'n anadl inni,
Fan hyn gynnau fu'n geni.
Gerallt Lloyd Owen
Dyma un o'r cerddi mae'n rhaid i Flwyddyn 12 Cymraeg Ail-Iaith astudio ar gyfer y Cwrs Uwch Gyfrannol.
Felly, un bore sych a thywyll ar ddechrau Rhagfyr, daeth rhai o griw y chweched gyda fi ar yr A483 gan ddringo'r ffordd droellog tuag at y 'Sugar Loaf', croesi'r ffin i Bowys a draw tuag at Gilmeri.
Mas a ni o'r bws-mini bler a drewllyd a sefyllo flaen y garreg goffa. Darllenon y gerdd ac yna gwelon y ffynnon sydd ar y safle. Yna cyfle i actio allan ychydig o'r gerdd , felly cytunodd Ben druan i ail-greu'r linell "Lle bu'i wallt ar welltyn" !!!!!!!!
Ymlaen i Lanfair-ym-Muallt i weld murlun ar sgwar y dref yn dangos golygfa o Lywelyn yn ymladd.
Draw i Ganolfan Wybodaeth y dref i ofyn am ogof Llywelyn yn Aberedw ond siom o ddeall nad oes llwybr rhwydd tuag at y fan i'r cyhoedd.
I orffen y bore rhaid oedd ymweld a un o gaffis y dref. Coffi poeth i fi , i dwymo ar ol bod mas yn yr oerfel - ond penderfynodd y bechgyn gael hufen ia !!!!