Sefydlwyd y Ganolfan Iaith yn Ysgol Pantycelyn ym mis Medi 1988 gyda'r bwriad o gynorthwyo'r hwyr-ddyfodiaid a symudai i'r ardal gan fynychu'r ysgolion cynradd lleol.
Yn Sir Gaerfyrddin y Ganolfan Iaith yn Llanymddyfri oedd y cyntaf i'w sefydlu yn y sir ac erbyn hyn mae chwe canolfan iaith yn Sir Gaerfyrddin, sef yn Rhydaman, Hen Dy Gwyn ar Daf, Gwendraeth, Tregib a Bro Myrddin. Daw'r disgyblion sy'n mynychu Canolfan Llanymddyfri o'r ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol pantycvelyn.
Pwrpas y Ganolfan Iaith yw creu parch ac ymwybyddiaeth o iaith, ardal a diwylliant newydd yn y plant fel eu bod yn gwerthfawrogi pam ei bod yn bwysig dysgu'r iaith. Cyflwynir y sgiliau iaith pwrpasol i'r disgyblion fydd yn eu cynorthwyo i intigreiddio'n haws yn eu hysgol newydd a'r gymuned. Bwriad y cynllun yw cynprthwyo'r disgyblion cynradd i ymsefydlu'n i'w hamgylchfyd newydd a sicrhau datblygiad addysgol.
Ers sefydlu'r cwricwlwm cenedlaethol yn yr ysgolion cynradd mae'r ganolfan Iaith wedi ymestyn ei chyrsiaU Cymraeg. Erbyn hyn ceir cyrsiau ar gyfer Hwyr-ddyfodiaid, Dysgwyr da a chyrsiau sy'n cynorthwyo Cymry Cymraeg a Dysgwyr wrth iddynt baratoi i wynebu Blwyddyn 7.
Mae'r athrawes sydd yng ngofal y Ganolfan yn gweithio'n agos iawna'r ysgolion cynradd. mae'r disgyblion yn mynychu'r Ganolfan iaith am ddiwrnod cyfan unwaith yr wythnos ac yn magu hyder o'r profiad. Mae hyn yn sicrhau llwyddiant y ganolfan i gyfrannu at dwf y disgyblionsy'n gallu siarad Cymraeg pan ddechreuant ym Mlwyddyn 7.
Beth yw’r Ganolfan Iaith?
Mae’r Ganolfan Iaith yn bennaf yn cynorthwyo Mewnfudwyr CA2 i integreiddio ac addasu i’r ysgol, iaith a diwylliant newydd ar ôl symud i’r ardal.
Beth sydd gan y Ganolfan Iaith i’w chynnig?
Ystod o gyrsiau Cymraeg i blant cynradd y dalgylch sy’n cwrdd â gofynion ysgolion yr ardal. Gweithgareddau amrywiol sy’n gyfle i’r plant fagu hyder yn y Gymraeg.
Dosbarth lliwgar, cartrefol a deniadol sy’n hybu’r Gymraeg. Cyrsiau sy’n helpu meithrin cysylltiadau rhwng cynradd ac uwchradd.