Adolygiad o Hen Rebel Theatr Genedlaethol Cymru
Nos Fawrth 11 o Hydref 2005 - Theatr y Lyric, Caerfyrddin
| 1 | Y daith !! Dechreuon ni o’r Ysgol … Aeth 9 ohonon ni I gyd, 6 o ni fechgyn sydd yn astudio AS , a thair merch Safon Uwch. Teithion mewn ‘comfort’ ym mws-mini’r ysgol !! gyda Mrs Madoc-Jones yn gyrru |
| 2 | Cyrraedd Caerfyrddin a chwilio am le i barcio. Troi mewn i Faes Parcio St Peters’ a dyna lle digwyddodd yr anffawd anffodus!!! Roedd y bar yn rhy isel I’r bws mini a fe glywon do y bws yn crafu y bar ac yn gwneud swn dychrynllyd .!! Wps!! A beth am y tywydd? Glaw, glaw a mwy o law!! Mae’n debyg ei bod hi wedi bwrw cymaint nes fod llifogydd mewn rhannau o Sir Benfro a roedd dwr mewn rhai tai yn y Gogledd hefyd. |
| 3 | Yna rownd y dre –yn y glaw - am ychydig |
| 4 | Aethon i’r Hen Dderwen i gael bwyd. Roedd Ben yn benderfynnol o gael chocolate fudge cake!! Roedd Chris a Dai yn cwyno am y ‘dressing’ ar y salad!! Doedd Shaun ddim yn hoffi yr ‘onion-rings’ Archebodd Lloyd sglodion a ham ond ni fwytodd y sglodion achos roedd eisiau cadw lle yn ei stumog ar gyfer 5 twba o ‘pop-corn’!!!!!!!!!! |
| 5 | Aethon i’r Theatr erbyn 6:30, er mwyn mynd i’r gweithdy ar gyfer dysgwyr |
| 6 | Ar ol y gweithdy, nol i’r fynedfa Aeth Lloyd i brynu pop-corn ac yna i siarad a merched . |
| 7 | Yn anffodus i ni , doedden ni ddim yn gwybod llawer am y Diwygiad a hefyd doedd dim llawer o ddiddordeb gyda ni ynddo fe chwaith. Roedd y perfformiadau yn dda ond doedd y stori ddim yn apelio i ni fel y cyfryw. Roedden ni wedi medru dilyn y Gymraeg yn eitha da. |
| 8 | Ar ol i’r ddrama orffen redden ni gyd yn awyddus i wybod sut oedd Mrs M-J yn mynd i yrru allan o’r maes parcio o dan y bar. Roedd y bar wrth yr allanfa yn fwy isel na’r un wrth y fynedfa !!!! O diar!! Mwy o grafu a mwy o swn a mwy o docliau oedd y canlyniad. Roedd pobl yn clywed y swn ac yn syllu o bob cyfeiriad!! Ac i goroni’r cwbwl , ychydig tu allan i Gaerfyrddin, dyma golau glas yn fflachio a swn seiren yn dod tu ol i ni. Roedd Mrs M-J yn dechrau becso. Ond pasio wnaeth yr heddlu – diolch byth |
| 9 | I ni, cafon fwy o ddrama tu allan i’r theatre ar y noson. Roedd y ‘twists and turns’ gyda’r bws yn llawer mwy diddorol na plot y ddrama. !!! |