Ysgol Gyfun Pantycelyn Llanymddyfri / Llandovery


Panel Top

Adroddiad i'r Llywodraethwyr - Medi 2007

 Adran Gymraeg 2007.  Arholiadau. 

Unwaith eto bu'r disgyblion yn weithgar gan ennill graddau teilwng ar lefel Uwch, Uwch Gyfrannol, TGAU ac ar ddiwedd CA3. Roedd canlyniadau safon Uwch yr un mor foddhaol ag arfer gyda phob ymgeisydd ar lefel Iaith Gyntaf ac Ail Iaith yn ennill Graddau A, B neu C. Eleni mae 3 myfyriwr ym Mlwyddyn 13 yn astudio'r Gymraeg fel Iaith Gyntaf a 4 yn astudio'r pwnc fel Ail Iaith. Cawsant hwythau ganlyniadau da ar lefel TGAU. 3 myfyriwr sydd ym Mlwyddyn 12 Iaith Gyntaf a 3 yn y dosbarth Ail Iaith. Mae'n bleser adrodd bod canran y graddau a dderbyniodd y myfyrwyr hyn yn sylweddol uwch na chanran Cymru gyfan ac yn brawf o ymroddiad y myfyrwyr ac addysg drylwyr athrawon yr adran - a dderbyniodd Gradd 1 yn yr arolygiad diwethaf am eu haddysgu.

Ar lefel TGAU roedd llawer mwy o ymgeiswyr yn sefyll yr arholiad Iaith Gyntaf gan godi canran yr ymgeiswyr hyn o 36% y flwyddyn cynt i 63% eleni. Er bod canran y graddau A* i C wedi gostwng (i 55.8% yn yr arholiad Iaith a 58.3% yn yr arholiad Llenyddiaeth) rhaid cofio bod niferoedd yr ymgeiswyr sy'n meddu ar fedrusrwydd dwyieithog wedi codi'n sylweddol. Mae'r adran yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Mr Aled Lewis sy'n medru cynorthwyo â dysgu  rhai o ddisgyblion Iaith Gyntaf CA4. Nifer llai oedd yn sefyll yr arholiad Ail Iaith hefyd gyda 60% yn ennill graddau A* i C.

Yn ôl y drefn roedd dau gr?p yn sefyll Profion Statudol Iaith Gyntaf ar ddiwedd CA3 ac unwaith eto rhaid eu llongyfarch ar gyrraedd lefelau teilwng iawn gan ystyried eu gallu ieithyddol ac academaidd. Llwyddodd pob un o'r ddau gr?p Iaith Gyntaf gael lefel 4 neu uwch gyda 87% ohonynt yn llwydd i ennill lefel 5 neu fwy.

Yn yr un modd, gan mai un gr?p o ddisgyblion Ail Iaith sydd ymhob blwyddyn o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 10, mae'n rhaid i'r  hwyrddyfodiaid ymdopi yn yr un gr?p â disgyblion sydd wedi astudio'r iaith am sawl blwyddyn - a rheiny'n allu cymysg. Gobeithir elwa ar gefnogaeth Mrs Helen Davies eleni gan dargedu'r hwyr ddyfodiaid ym Mlynyddoedd 7 ac 8 a hyrwyddo'r pontio ym Mlwyddyn 7 trwy gefnogi pynciau fel Hanes a Daearyddiaeth a chynnal Clwb Cymraeg amser cinio ar ddydd Iau. Unwaith eto, problem ychwanegol yw ymdopi â disgyblion â gwahanol anghenion arbennig mewn un dosbarth.

Gweithgareddau.

Yn ogystal â gweithgareddau academaidd, cynhaliwyd y gweithgareddau allgyrsiol canlynol hefyd:-

  

  • Siarad Cyhoeddus Y Rotari:- Ein tîm sef Heledd Watkins (Cadeirydd), Owen Griffiths (Cynigydd) a Rhian Davies (Gwrthwynebydd) yn cyrraedd y Rownd Derfynol a gynhaliwyd yn Ysgol Glan Taf ar 30ain Tachwedd 2006. Fel arfer, mae'r adran yn ddiolchgar iawn i  Mr D. Dyer am ei barodrwydd i ysbrydoli a hyfforddi'r tîm.
  • Ymweliadau theatr: -
    • ‘Sing to Me' - Canolfan Mileniwm Cymru - mis Tachwedd.
    • ‘Actus Reus' - Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin - mis Tachwedd.
    • ‘Pwyll Piau Hi - Theatr y Lyric, Caerfyrddin - mis Ionawr.
    • ‘Cysgod y Cryman' - Theatr Brycheiniog, Aberhonddu - mis Chwefror - unwaith eto mae'r adran yn ddiolchgar i Mr D. Dyer am ei barodrwydd i ymuno â'r daith hon ar y funud olaf.
    • Pantomeim. Ar 8/12/06 roedd y rhan fwyaf o flwyddyn 7 yn ogystal â rhai aelodau o flynyddoedd 8 a 9 wedi mwynhau bore yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin gyda Miss L. Jones a Mrs E. Madoc-Jones.

  

  • Llyfrau'n Taro 10 - ymweliad blynyddol Theatr Arad Goch ar 16/11/06 i hyrwyddo llyfrau Cymraeg i ddisgyblion CA3.
  • Steddfod yr Ysgol . Er gwaetha'r eira a ohiriodd ein heisteddfod tan brynhawn Mawrth 20fed Chwefror a thrwy'r dydd ar 21ain Chwefror, cafwyd diwrnod a hanner hwyliog a chystadleuol, diolch i waith caled y Chweched Dosbarth. Braf oedd gweld rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgolion cynradd yn ymuno â ni am gyfnod. Prif enillwyr yr Adran Gymraeg eleni oedd:-
    • Y Gadair                      - Heledd Watkins
    • Tlws y Dysgwyr             - Ben Proctor.

            Ein diolch i Mr Tom Marks am ei feirniadaeth adeiladol a chynhwysfawr.

  • Eisteddfod Llangadog. Fel arfer bu disgyblion CA3 yn cystadlu mewn cystadleuaeth ysgrifenedig i ysgrifennu stori fer. Enillwyr eleni oedd:-
    • 1af        -         Carys Hughes 9Y
    • 2il          -         Megan Arthur 9Y a Lowri Rees 9Y
    • 3ydd    -         Angharad Evans 9Y a Ffion Davies 9Y
  • Eisteddfod Sir Gâr:- braint oedd ymwneud â'r gweithgareddau amrywiol. Bu nifer o ddisgyblion yr adran - yn iaith gyntaf ac ail iaith - yn mireinio eu sgiliau llefaru. Clod i bawb a fu'n cystadlu ond llongyfarchiadau arbennig i ddysgwyr Blwyddyn 10 am ennill y Cyflwyniad Dramatig. Daeth y cyflwyniad cyffelyb i Flwyddyn 9 yn agos ati a methu cyrraedd y llwyfan o drwch blewyn wnaeth Parti Llefaru iaith Gyntaf CA3. Dymuna'r adran ddiolch yn ddidwyll i'r hyfforddwyr am eu gwaith caled - Mrs Eirlys Madoc-Jones am ysbrydoli'r dysgwyr ac yn arbennig i Mrs Carol Arthur am wirfoddoli cymaint o'i hamser i hyfforddi'r parti llefaru i safon mor uchel. Yn olaf, pleser calon oedd gweld cyn-ddisgybl sef Rhiannon Marks yn codi ar ei thraed fel llenor buddugol yr Eisteddfod. Braf oedd gweld ei choroni.
  • Ym Mis Mawrth bu'r actores a'r awdures Llio Silyn yn cynnal gweithdy gyda chriw o ddisgyblion iaith gyntaf Blwyddyn 10. Cawsant fore hwylus a digon o ddeunydd i'w symbylu yn eu gwaith cwrs creadigol.
  • Mae gwefan yr ysgol yn dal i ddatblygu. Bu'r  adran wrthi'n casglu deunydd ac yn  mewn bwnio gwybodaeth.
  • Trefnwyd taith addysgiadol i Gaerdydd ar ddiwedd  tymor yr haf. Bydd disgyblion Ail iaith CA4 yn defnyddio'r wybodaeth a'r profiadau a gawsant yn eu harholiadau allanol.

Cyrsiau

  

Fel arfer bu aelodau'r adran ar gyrsiau amrywiol i finiogi a hyrwyddo eu gwybodaeth arbenigol. Mae'r cyrsiau a drefnir gan CBAC yn werthfawr tu hwnt gan fod cyfarfod â'r arholwyr a derbyn gwybodaeth o lygaid y ffynnon yn ein cynorthwyo i baratoi'r ymgeiswyr yn drylwyr ar gyfer yr arholiadau allanol. Gan fod meysydd llafur TGAU a Safon Uwch yn newid unwaith eto gobeithiwn elwa o gyrsiau pellach yn ystod y flwyddyn. Bydd yr ysgol yn treialu cwrs TGAU newydd sy'n fwy galwedigaethol ei naws; gobeithir y bydd yn berthnasol ac yn fuddiol. Yn sicr, bu'r profiad o dreialu Portffolio CA3 yn werthfawr iawn.


Panel Left