The main ICT Suite has 31 computers in a recently modified room. New, dedicated furniture throughout, carpetted floor, interactive whiteboard and colour laser printer.
The suite is used extensively and in great demand by all departments on a booking system.
Datblygiadau
Erbyn hyn, mae prif ystafell TGCh bron yn 5 mlwydd oed a gweithredir rhaglen o ddiweddaru'r peiriannau yn eu tro, gyda rhyw draean wedi eu disodli hyd yn hyn. Gobeithiwn adnewyddu'r gweddill eleni. Golyga'r gwelliannau hyn ein bod yn diweddaru'r t?r yn unig gan y gellir defnyddio'r monitor o hyd. Gobeithiwn ddiweddaru o sgriniau CRT i rai TFT yn y dyfodol agos. Byddai hyn yn esmwythach i'r defnyddiwr ac yn cwtogi allgyrchiant gwres.
Gall fod yn rhy dwym ac yn afiach yn yr ystafelloedd TGCh - H3 a T2 - i'r disgyblion a'r offer. Dylid rhoi system awyru yn y ddwy ystafell. Amcangyfrifir mai cost hyn fydd fan lleiaf £1500 yr ystafell.
Mae dosraniad y cyllid i TGCh yn rhwystro datblygiad yn yr ysgol. Ar hyn o bryd ceir £12,000, sy'n cynnwys £3,000 ar gyfer trwydded Lisol, gan adael £9,000 yn unig ar gyfer cynnal a datblygu yn yr ysgol, sydd yn annigonol.
Rydym wedi archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno adnoddau cyfryngol yn y brif neuadd, gan fwriadu rhoi taflunydd wedi ei rwydweithio a sgrin fawr yno Ar hyd o bryd mae'r gost yn ormod i gyllideb yr ysgol ac felly bydd rhaid i ni edrych eto am gefnogaeth. Byddai'r datblygiad hwn yn caniatáu cyflwyniadau mwy deinamig yn ystod gwasanaeth, o bosibl adeg cinio ac yn ystod unrhyw gynulliad ysgol neu gyhoeddus.
For more information contact Andrew Williams