Rhan annatod o weithgareddau Ysgol Pantycelyn bob blwyddyn yw'r Eisteddfod Ysgol. Yn wahanol i nifer o ysgolion mae'r chweched dosbarth yn cymryd yr awenau i drefnu cystadleuwyr ac annog eu cyd ddisgyblion i gymryd rhan i'r graddau bod rhan fwyaf o'r ysgol yn cymryd rhyw rhan yn yr Eisteddfod. Da o beth yw hyn a chredaf bod hyn yn amlwg yng nghymdeithas ardaloedd Pantycelyn gan nad oes byth prinder o bobl ifanc i wneud pethau e.e. gweler cryfder Clybiau Ffermwyr Ifanc Llangadog, Llanymddyfri a Dyffryn Cothi. Eisteddais yn yr Eisteddfod am ddiwrnod a hanner a synnu ar rai o'r wynebau oedd yn ymweld â'r llwyfan - y bois cyhyrog rygbi neu'r "it girls" oedd yn eithaf parod i ddawnsio, canu, llefaru neu actio'r ff?l er mwyn ennill clod i'w tai boed yn Bantycelyn, Prichard neu Dingad.
Fel mae'n digwydd eleni T? Dingad a orfu dan arweiniad eu capteiniaid Elinor Thomas a Telor Dyer a hyn am yr ail dro yn olynol ar ôl blynyddoedd yn y diffeithwch.
Uchafbwynt yr Eisteddfod yw'r cadeirio ac fe geir dwy gadair - i'r dysgwyr ac hefyd i'r rheini â Chymraeg yn iaith gyntaf. Enillydd cadair y dysgwyr eleni oedd Jonathan Harris, disgybl a ddaeth i Bantycelyn yn y ddwy flynedd ddiwethaf a phob clod iddo nid yn unig am ennill Cadair y Dysgwyr ond hefyd am ei frwdfrydedd yngl?n â phob elfen o'r Eisteddfod. Enillydd Cadair traddodiadol yr Eisteddfod oedd Manon Tomos un hefyd a fu'n hynod weithgar yn yr Eisteddfod gan gipio Tlws y Cerddor hefyd a braf oedd gweld Rhiannon Marks (y beirniad llên a llefaru) ac enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni yn cyflwyno eu gwobrau i Jonathan a Manon.
Ymysg prif wobrau eraill yr Eisteddfod mae'r Darian Saesneg a gyflwynwyd i BeshlieThorp, y Darian Gwyddoniaeth a gyflwynwyd i T? Dingad a Thlws y Perfformiwr am gyfraniadau mwyaf disglair yr Eisteddfod i Telor Dyer.
Cystadleuaeth olaf yr Eisteddfod yw'r corau ac yn aml iawn mae canlyniad yr Eisteddfod gyfan yn dibynnu ar ganlyniad y corau. Eleni Côr Dingad enillodd dan ei arweinydd Telor Dyer a braf oedd gweld Elinor a Telor yn derbyn Cwpan yr Eisteddfod ar ran T? Dingad.
Llongyfarchiadau i bawb ac i unrhyw arweinyddion corau'r ardal sy'n darllen hyn - roedd rhyw 150 o bobl ifanc yn y corau felly dylai fod dim prinder i'ch corau yn y dyfodol - peidiwch a'u colli!