Cyflwyniad y Prifathro
Croeso i wefan newydd Pantycelyn.org. Wrth edrych ymlaen at her blwyddyn academaidd newydd rwyf unwaith eto’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr ysgol a’r wefan newydd. Ar y safle hwn cewch wybodaeth am ein hamcanion, gweithgareddau a sut y gallwn wasanaethu’r gymuned leol. Dyma flwyddyn gyntaf ein gwefan ac edrychwn ymlaen at y cyfleoedd a’r datblygiadau a ddaw yn sgil hyn.
Yn y dyfodol agos rydym yn edrych ymlaen at foderneiddio bloc ffrynt yr ysgol a adeiladwyd yn 1896, ac at adeiladu ystafelloedd cadw’n heini gyda chydweithrediad Adran Adfywio ac Hamdden y Sir. Dyma ddatblygiadau pellach at greu adnoddau rhagorol i’r gymuned sy’n cynnwys Safle Criced bob tywydd, Bloc newydd y Chweched Dosbarth a’r Adran Anghenion Arbennig, Ystafelloedd TGCh, Caeau Chwarae, Canolfan Iaith, Ystafelloedd Drama a Cherddoriaeth, Safleoedd gwaith Technoleg, ac, wrth gwrs, pwll Nofio Llanymddyfri.
Gydag ymrwymiad y Staff, mae hyn oll yn gyfraniad cadarnhaol at yr addysg a gynigir trwy’r profiadau eang a gynigir i’r disgyblion gan gynnwys y gweithgareddau allgyrsiol amrywiol a drefnir yn ystod y flwyddyn.
Gwerthfawrogir yn fawr gefnogaeth rhieni, llywodraethwyr, busnesau lleol a’r gymuned ehangach sydd hefyd yn cyfrannu at lwyddiant Ysgol Gyfun Pantycelyn.
Fy nymuniadau gorau i chi gyd, yn arbennig ein hieuenctid, ar gyfer 2006 / 2007.